Tydi fy Arglwydd yw fy rhan

1,2,(3,4),5,6;  1,3,5,6.
Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan,
  A doed y drygau ddêl;
Ac er bygythion uffern fawr,
  Dy gariad sy dan sêl.

Oddi wrthyt rhêd, fel afon faith,
  Fy nghysur yn ddi-drai;
O hwyr i foreu
    fyth yn gylch,
  Dy gariad sy'n parhau.

Uwch pob rhyw gariad îs y nef
  Yw cariad pur fy Nuw;
Anfeidrol foroedd dyfnion maith,
  Heb fesur arno, yw.

Dechreuodd draw cyn
    creu y byd,
  Fe bery byth yn mlaen;
Heb un cyfnewid, ac heb drai,
  Pan elo'r byd yn dân.

O! deuwch, gwelwch, chwiliwch ef,
  Anfeidrol gariad mawr,
Ag sydd yn maddeu miloedd myrdd
  O feiau yn yr awr.

Yn para yn ffyddlon fyth heb drai,
  P'odd bynag y trŷ'r byd;
A phe cymysgai'r tir a'r môr,
  Yr un yw'm Duw o hyd.
sy dan :: sydd dàn
rhyw gariad îs :: rhyw gysur îs
deuwch, gwelwch :: de(')wch a gwelwch
gwelwch, chwiliwch ef :: bawb i syllu ar
Anfeidrol :: 'R anfeidrol
yn yr awr :: bob yr awr
Yn para yn ffyddlon fyth :: Mae'n para'n ffyddlawn byth
fyth heb drai :: heb un trai
P'odd bynag y trŷ'r :: Ffordd bynag try y :: Er newidiadau'r
trŷ'r :: troddo'r
cymysgai'r tir a'r môr :: cymmysgai tir a môr
Yr un yw'm :: 'R un fyddai'n

William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Bedford (William Wheale 1696-1727)
Binchester/Compton (William Croft 1678-1827)
Blackbourn (Harrison's Sacred Harmony 1784)
Devizes (Isaac Tucker 1761-1825)
Eatington (William Croft 1678-1827)
French (The CL Psalmes of David)
Gloucester (Salmydd Ravenscroft 1621)
St Ann (William Croft 1678-1727)

gwelir:
  Doed uffern angeu a holl rym
  Uwch pob rhyw gariad îs y nef
  Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn

Thou, my Lord, art my lot,
  And let evils come that may come;
And despite the threats of great hell,
  Thy love is under a seal.

From thee runs, like a vast river,
  My comfort unebbing;
From evening until morning
    forever as a circle,
  Thy love continues.

Above every kind of love under heaven
  Is the pure love of my God;
Vast, deep, immeasurable seas,
  Without measure on it, it is.

It began long before the
    creating of the world,
  It will continue forever on;
Without one change, and without ebbing,
  When the world goes to fire.

O come, see, seek him,
  Great, immeasurable love,
Which forgives thousands of myriads
  Of faults now.

Enduring faithfully forever without ebbing,
  However the world turns;
And if the land and the sea should mix,
  The same is my God still.
::
kind of love under :: kind of comfort under
come, see :: come and see
see, seek :: everyone to gaze on
... immeasurable :: The ... immeasurable
now :: hour by hour
Continuing faithful forever :: It continues faithful forever
forever without ebbing :: without any ebbing
However the ... turns :: However the ... turns :: Despite the changes of the
::
the land and the sea should mix :: land and sea should mix
The same is my :: The same would be our

tr. 2010,18 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~